Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Toriad 21 Chwefror 2011 – 25 Chwefror 2011
Dydd Mawrth 1 Mawrth 2011 a dydd Mercher 2 Mawrth 2011
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2011 a dydd Mercher 9 Mawrth 2011
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2011 a dydd Mercher 16 Mawrth 2011
………………………………………….
Dydd Mawrth 1 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Mesur Seneddol ynghylch Addysg (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Atodol (15 munud)
Dadl ar raglen TG y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (60 munud)
Dadl ar Ddiwygio’r PAC (60 munud)
Dydd Mercher 2 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Cynnig i benodi archwilwyr i gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Cyfnod pleidleisio
Dadl fer (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Blant: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru (30 munud)
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion a Iawn) (Cymru) 2011 (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo rheoliadau Waste (England and Wales) Regulations 2011 (15 munud)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Mesur Seneddol ynghylch Diwygio Cyrff Cyhoeddus (15 munud)
Dadl ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol ESTYN (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.) (60 munud)
Dadl ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (60 munud)
Dydd Mercher 9 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ‘Ymchwiliad Dilynol i Rianta yng Nghymru a rhoi’r Cynllun Gweithredu Rhianta ar waith’ (30 munud)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ‘Ymchwiliad Dilynol i Dlodi Plant yng Nghymru: Ai Addysg yw’r Ateb?' (30 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Cyfnod pleidleisio
Dadl fer (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Strategaeth Lyfrgell Newydd (30 munud)
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (15 munud)
Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011 (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ffïoedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 (15 munud)
Dadl ar Ddarparu Gwasanaethau Demensia (60 munud)
Dydd Mercher 16 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)
Busnes y Cynulliad:
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo adolygiadau i Reolau Sefydlog (15 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Bolisïau Cynllunio yng Nghymru (60 munud)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar yr agenda wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Cyfnod pleidleisio
Dadl fer (30 munud)