15/11/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 15/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/11/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud)
  • Cyfnod Pleidleisio (5 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 23 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Chweched Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
    • Egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

 

 

 

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi (30 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (180 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)   
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim ar gyfer diogelu'r amgylchedd (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cyfraith Mark Allen - Diogelwch dŵr ac atal boddi (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)