16/11/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 16/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2021   |   Amser darllen munudau

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45 munud)
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 (20 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd) (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd (60 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021

Busnes y Llywodraeth        

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith (60 mun)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Jane Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trawsnewid Proffesiynau Perthynol i Iechyd (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwrnod AIDS y Byd (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (20 munud):
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau    Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021
    • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i Ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021
    • Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021
    • Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r rhestr o awdurdodau Cymreig) 2021
    • Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Casgliad yr Adolygiad o Ffiniau Etholiadol (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil A Dyfeisio Blaengar (15 munud)
  • Dadl: Cynllun Hawliau Plant 2021 (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar deiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Rhys ab Owen (Canol De Cymru) (30 munud)