17/01.2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 17/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/01/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio’r Holocost 2023 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a’r Sylfaen Wybodaeth (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu Nifer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 – Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
  • Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 25 Ionawr 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) (30 munud)   
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Costau cynyddol – yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 31 Ionawr 2023


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023

Dim busnes wedi'i drefnu.

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Y Gyllideb Ddrafft 2023-24 (120 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaeth (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaeth (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar absenoldebau disgyblion o’r ysgol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)