Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 24 Medi 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rhaglen Tai Arloesol - Blwyddyn 3 (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adeiladu ar record ailgylchu Cymru (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant i Gymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Yr Adolygiad Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Cymru (45 munud)
Dydd Mercher 25 Medi 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (60 munud)
- Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
- Dadl Fer: Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 1 Hydref 2019
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol i Ddiwygio Lesddeiliadaeth (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Paratoadau ar gyfer y gaeaf a mesurau gofal brys newydd posibl (45 munud)
- Cynnig i Gytuno ar y Penderfyniad Ariannol Mewn Perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 Munud)
Dydd Mercher 2 Hydref 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Hydref 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun Peilot Bwndel Babanod (45 Munud)
- Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 (15 munud)
- Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham (15 munud)
Dydd Mercher 9 Hydref 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Fer Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud
Bydd cyfarfod Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, a gynullir i drafod Cyfnod 2 o'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cael ei gynnal ar ôl y Ddadl Fer
Ar yr amod bod y Cynulliad yn derbyn cynnig i'r perwyl hwn ddydd Mercher 18 Medi.