Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 24 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Recriwtio Athrawon (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Y Rhaglen Tai Arloesol (45 munud)
- Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 (15 munud)
- Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 (15 munud)
- Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017 (15 munud)
Dydd Mercher 25 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) – (30 munud)
Toriad: dydd Llun 30 Hydref 2017 - dydd Sul 5 Tachwedd 2017
Dydd Mawrth 7 Tachwedd 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cofio ein Lluoedd Arfog - Anrhydeddu Aberthau'r Gorffennol a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod (30 munud)
- Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
- Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17 (60 munud)
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Ymchwiliad i Blant sydd wedi bod mewn Gofal (30 munud)
- Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (60 munud)
- Dadl Fer - Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - (30 munud)
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Dadl: Mynd i'r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau (60 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (120 munud)
Dydd Mercher 15 Tachwedd 2017
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Seilwaith Digidol Cymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
- Dadl Fer - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) - (30 munud)