17/10/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 17/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn  

 

Dydd Mawrth 24 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                          

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Diweddariad ar Gynnydd y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau ar Bresenoldeb (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Troseddol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (30 munud)
  • Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 (5 munud)
  • Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 (5 munud)

 

Dydd Mercher 25 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Alun Davies (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Huw Irranca-Davies (Ogwr) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 7 Tachwedd 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud):
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cymorth i Aros (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru (30 munud)

 

Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Sylfaenol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi’r Cymoedd Gogleddol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gwerthusiad o’r Cod Ymarfer Awtistiaeth a Niwrowahaniaeth (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Data ar Leoliadau Tomenni Glo (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Dileu TB Buchol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050: Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023 (30 munud)

 

Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25 (30 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Jenny Rathbone (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) (30 munud)