Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Darparu Cymru Carbon Isel (45 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (15 munud)
- Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd (90 munud)
- Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2019
Busnes y Cynulliad
- Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (60 munud)
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) (15 munud)
- Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli (60 munud)
- Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) (30 munud)
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (45 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Partneriaeth Gymdeithasol (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (45 munud)
- Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu Personol (Cymru) 2019 (15 munud)
- Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020 (30 munud)
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru (60 munud)
- Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)