19/09/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 19/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 26 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                    

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cadernid y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cadw: ennyn diddordeb cymunedau mewn treftadaeth (30 munud)

 

Dydd Mercher 27 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 3 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                     

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Fil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith – Rhaglen Cyfnewid Dysgu Ryngwladol Cymru (30 munud)
  • Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 (15 munud)

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Yr hawl i gael tai digonol (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru - 2022-23 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru (30 munud)
  • Dadl: Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (90 munud)

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)