21/06/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 21/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 28 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (15 munud)
  • Cyfnod pleidleisio (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (30 munud) – wedi’i ad-drefnu
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026 (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 29 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth        

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1277: Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Gyllidebu ar Sail Rhyw (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Menywod (30 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (Cymru) (120 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)  
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 (30 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)  
  • Datganiad y Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Warant i Bobl Ifanc – sicrhau dyfodol gwell i’n pobl ifanc (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg (30 munud)
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022 i 2023 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni ein hamcanion llesiant (60 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (60 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru (30 mun)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)