22/11/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 22/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (5 munud)
  • Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

 

 

 

 

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd – Y Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi (30 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (180 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)   
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cyfraith Mark Allen - Diogelwch dŵr ac atal boddi (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 (90 munud)

 

 

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Trais ar Sail Rhywedd – Anghenion Menywod Mudol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud)