23/05/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 23/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                            

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach yn Gyflymach (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau Addysg Ddewisol yn y Cartref (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y llywodraeth i ail gam cydlunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yn y Canolbarth (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Sectorau Technoleg a Seiber (30 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (15 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 7 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                             

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru – diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Datganiad Ansawdd ar gyfer Diabetes (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amddiffyn rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 14 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                      

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllunio ar gyfer Feirysau Anadlol yn y Gaeaf (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy – cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid – Tosturi (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon (15 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deintyddiaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)