23/09/2014 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 23/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/09/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

       

Dydd Mawrth 30 Medi a dydd Mercher 1 Hydref 2014

Dydd Mawrth 7 Hydref a dydd Mercher 8 Hydref 2014

Dydd Mawrth 14 Hydref a dydd Mercher 15 Hydref 2014          

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 30 Medi 2014 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyllideb Ddrafft 2015-16 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Swyddogion Cymorth Cymunedol – Flwyddyn yn Ddiweddarach (30 munud)
  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd mewn perthynas â darpariaethau sy'n ymwneud â'r drosedd o gam-drin neu esgeulustod bwriadol gan weithwyr gofal (15 munud)
  • Dadl: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus (60 munud)

 

Dydd Mercher 1 Hydref 2014 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad (5 munud).
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 7 Hydref 2014 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: y Bil Cynllunio (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cymwys am oes: Cynllun gwella addysg ar gyfer Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ymateb i Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Lansio rownd buddsoddi i arbed 2014 (30 munud)
  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Dadreoleiddio: diwygio deddfwriaeth yn ymwneud â blaendal gan denantiaid (15 munud)

Dydd Mercher 8 Hydref 2014 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

Busnes y Cynulliad 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar arfer gorau mewn prosesau cyllidebol (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
  • Dadl fer - Keith Davies (Llanelli) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 14 Hydref 2014 

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adfywio Canol Trefi (30 munud)
  • Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Weithdrefn) (Cymru) 2014 (15 munud)
  • Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Uwch (Cymru) (60 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2013-14 (60 munud)

 

Dydd Mercher 15 Hydref 2014 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad 

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)