23/11/2010 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 30 Tachwedd a dydd Mercher 1 Rhagfyr 2010

Dydd Mawrth 7 Rhagfyr a dydd Mercher 8 Rhagfyr 2010

Toriad 13 Rhagfyr 2010 tan 7 Ionawr 2011

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2011 a dydd Mercher 12 Ionawr 2011

………………………………………….

Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  1. ·Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  2. ·Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  3. ·Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes: Strategaeth Addysg Uwch (45 munud)

  4. ·Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (30 munud)

  5. Dadl ar Adnewyddu’r Economi (60 munud).

Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 (15 munud)

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Ddysgu ac Addysgu Cymraeg fel Ail Iaith (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, ‘Gwneud yn Fawr o Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr yng Nghymru’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar Fesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) (120 munud)

       Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

       Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru).  

Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (30 munud)

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb 2011/12 Comisiwn y Cynulliad (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Newyddenedigol (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno ar unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheolau Sefydlog 23.80(ii)(b) a (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur (60 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru)

  • Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru), yn cytuno ar unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheolau Sefydlog 23.80(ii)(b), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur (60 munud)

Dydd Mercher 12 Ionawr 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)  

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)