Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 31 Mawrth a dydd Mercher 1 Ebrill 2009
Gwyliau’r
Pasg 6 Ebrill - 26 Ebrill 2009
Dydd Mawrth 28 Ebrill a dydd Mercher 29 Ebrill 2009
Dydd Mawrth 5 Mai a dydd Mercher 6 Mai 2009
Dydd Mawrth 31 Mawrth 2009
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Ymgynghoriad ar y Polisi Dŵr (45 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: y Cynllun Cydraddoldeb Sengl (45 munud)
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2009 (15 munud)
Cymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol parthed y Mesur Diwygio Lles (15 munud)
Dadl ar y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cydsyniad Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2009 a’i gymeradwyo (30 munud).
Dadl ar fynediad dinasyddion (bydd y ddadl yn trafod mynediad at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd a sut y darperir hwy gyda ffocws ar sut y cyflawnwyd hyn drwy fod yn arloesol, cyd-greu gyda dinasyddion a gweithredu egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y dinesydd mewn perthynas â datblygu sefydliadol) (60 munud)
Dydd Mercher 1 Ebrill 2009
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)
Busnes y Cynulliad:
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gynnydd y byrddau gwasanaethau lleol (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Amser pleidleisio
Y ddadl fer a ohiriwyd ar 25 Chwefror 2009: NDM4152 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dyfodol Gwasanaethau Epilepsi yng Nghymru (30 munud)
Dadl fer (30 munud)
………………………………………….
Gwyliau’r
Pasg 6 Ebrill - 26 Ebrill 2009
………………………………………….
Dydd Mawrth 28 Ebrill 2009
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Dadl Cam 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru). Ar ddiwedd Cam 3, gall y Gweinidog gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 23.58: cynnig Cam 4 Rheol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 29 Ebrill 2009
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru, eu teuluoedd a’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt (60 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Amser pleidleisio
Dadl fer (30 munud)
Dydd Mawrth 5 Mai 2009
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Canlyniadau’r Adolygiad Echel 2 ar Reoli Tir (45 munud)
Cynnig i gymeradwyo'r Gorchymyn Tai (Rhoi Tenantiaethau yn lle Tenantiaethau a Derfynwyd) (Olynydd-landlordiaid) 2009 (15 munud)
Dadl ar Adroddiad Blynyddol ESTYN (60 munud)
Dydd Mercher, 6 Mai 2009
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (30 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat (30 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser pleidleisio
Dadl fer (30 munud)