24/09/2019 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 24/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/09/2019

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn


Dydd Mawrth 1 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) - i'w hateb gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Paratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb (45 munud).
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Paratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb - (45 munud)
  • Cynnig i Gytuno ar y Penderfyniad Ariannol Mewn Perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 Munud)

 

Bydd Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan wedi'i gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cael ei gynnal ar ôl Cyfnod Pleidleisio

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (15 munud)
  • Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (15 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)

 


Dydd Mawrth 8 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach (45 munud)
  • Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham (15 munud)

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Fer Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)

 

Bydd Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan wedi'i gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cael ei gynnal ar ôl y Ddadl Fer.

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019 (15 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cyfnod Dau y Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat (45 munud)
  • Datganiad: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllunio'r GIG (45 munud)

 

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwyster a Gweithredu (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)