24/11/2015 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 24/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/11/2015

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015 a dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 a dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015

Toriad: Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - dydd Sul 10 Ionawr 2016

Dydd Mawrth 12 Ionawr 2016 a dydd Mercher 13 Ionawr 2016


 

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Polisi Caffael - Ysgogi Gwelliant ac Ymgysylltu â Busnesau (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub o 2016 Ymlaen (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ar y rhaglen i ddileu TB (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Swyddfa Brisio sy'n deillio o'r Bil Menter (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach sy'n deillio o'r Bil Menter (15 munud) 
  • Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (15 munud)
  • Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (15 munud)

     

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015

 Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer-Christine Chapman (Cwm Cynon) (30 munud)


 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyllideb Ddrafft 2016-17 (30 munud)
  • Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 (15 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar Benderfyniad Ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (5 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Treth (60 munud)

     

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 12 Ionawr 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cynhyrchu ynni lleol (30 munud)
  • Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2016 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond i bleidleisiau arnynt ar wahân: 
    • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodol a Chysyniadau Eilaidd a Ragnodir (Cymru) 2016  (5 munud)
    • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (5 munud) 
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith, mewn perthynas â darpariaethau/gwelliannau'n ymwneud â'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio mewn perthynas â darpariaethau'n ymwneud â rhyddfreinio ac ymestyn prydlesi hir (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Dylanwad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15 (60 munud) 

     

     

Dydd Mercher 13 Ionawr 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

     

Busnes y Cynulliad

  • Bil Cymru Drafft (180 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)