24/11/2020 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ailadeiladu Economaidd (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol – Ymateb i Adolygiad Brown (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (45 munud)
  • Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg (45 munud)

 

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 02-20 (15 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd (45 munud)
  • Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
  • Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2019-2020 (60 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)

     

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd (45 munud)
  • Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (15 munud)
    • Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
    • Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
    • Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
    • Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

       

 

 

Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

     

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwilliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)