25/02/2020 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 25/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/02/2020

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (45 munud)
  • Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (15 munud)
  • Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-2021 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2020-2021 (60 munud)
  • Dadl: Y Setliad Llywodraeth Leol 2020-2021 (60 munud)
  • Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2019-20 (15 munud)
  • Dadl: Cynnydd ar fynd i'r afael â Throseddau Casineb (60 munud)

Dydd Mercher 4 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)

 



Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

 

  •  Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020
  • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020 
  • Dadl: Setliad yr Heddlu (30 munud)
  • Dadl: Maes Awyr Caerdydd (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (180 munud)

     

 

Dydd Mercher 11 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)

 



Dydd Mawrth 17 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd ar y Llwybr Canser Sengl (45 munud)
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (60 munud)

 


Dydd Mercher 18 Mawrth 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit: Rôl i'r Cynulliad (60 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-912 - Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
  • Dadl Fer: Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) (30 munud)