25/04/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 25/04/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/04/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 2 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                        

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio Trethi Lleol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr fel Dinasyddion – Addysg Uwch (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 3 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Datgarboneiddio’r sector tai preifat (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mawrth 9 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Ap y GIG (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
    • Egwyddorion Cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 10 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Huw Irranca-Davies (Ogwr) (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mawrth 16 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                            

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023
    • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (180 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 17 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Peter Fox (Mynwy) (30 munud)