26/09/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 26/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 3 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                            

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Fil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith – Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru ar gyfer Dysgu (30 munud)
  • Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 (15 munud)

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Yr hawl i gael tai digonol (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru - 2022-23 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Y GIG mewn 10 mlynedd a mwy: archwiliad o effaith amcanestynedig cyflyrau hirdymor a ffactorau risg yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (90 munud)

 

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygiad Economaidd Rhanbarthol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwerth Cymdeithasol a Llesiant Economaidd (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb (30 munud)
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022-23 (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 18 Hydref 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1345: Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)