28/03/23 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 28/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2023   |   Amser darllen munudau

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                          

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023/24 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol (30 munud)
  • Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) (30 munud)

 

Dydd Mercher 26 Ebrill 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 2 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                      

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio Trethi Lleol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr fel Dinasyddion – Addysg Uwch (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud)

 

Dydd Mercher 3 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Datgarboneiddio’r sector tai preifat (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 9 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                   

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Ap y GIG (30 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
    • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 10 Mai 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)