Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Gyllidebu ar Sail Rhyw (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Menywod (30 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (120 munud)
Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Luke Fletcher - Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent (30 munud)
- Datganiad y Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Warant i Bobl Ifanc – sicrhau dyfodol gwell i’n pobl ifanc (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg (30 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
- Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (10 munud)
- Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 (30 munud)
- Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 (15 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (10 munud)
- Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 (15 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (15 munud)
- Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022 i 2023 (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni ein hamcanion llesiant (60 munud)
Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (60 munud)
- Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (60 munud)
- Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru (30 mun)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Medi 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Dydd Mercher 14 Medi 2022
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
- Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer (30 munud)