29/01/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 29/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/01/2019

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 5 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru (60 munud)

 
Dydd Mercher 6 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Hefin David (Caerffili) (30 munud)

     

Dydd Mawrth 12 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf (45 munud)
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 (15 munud)
  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20 (60 munud)
  • Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (60 munud)

 

Dydd Mercher 13 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: cytundeb perthnasau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 19 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid (45 munud)
  • Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18 (60 munud)

 
Dydd Mercher 20 Chwefror 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad ar Berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y Dyfodol (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Achosion o Hunanladdiad yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl fer: Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)