29/09/2020 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 29/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2020

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 6 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020 (45 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020

       
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 (15 munud)
  • Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol (60 munud)

 

Dydd Mercher 7 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 01-20 (15 mun)
  • Cynnig i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc (5 mun)
  • Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro (15 mun)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Diwygio'r Senedd: y camau nesaf (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Alun Davies (Blaenau Gwent) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020 (45 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
    • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (60 munud)
    • Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Hefin David (Caerffili) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y sefyllfa bresennol o ran Cysylltiadau Rhynglywodraethol (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru (45 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20 (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 21 Hydref 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)