29/11/2011 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr a dydd Mercher 7 Rhagfyr 2011

Toriad y Nadolig: 12 Rhagfyr 2011 – 6 Ionawr 2012

Dydd Mawrth 10 Ionawr & dydd Mercher 11 Ionawr 2012

Dydd Mawrth 17 Ionawr & dydd Mercher 18 Ionawr 2012

*************************************************************************************************

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2011 13:00

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 (15 munud)  

  • Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu’n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru)  2010 (Diwygio) 2011 (15 munud)

  • Dadl ar y Gyllideb Flynyddol/Derfynol (90 munud)

  • Dadl ar Heriau Iechyd Cyhoeddus  – Rheoli Tybaco (60 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2011 12:30

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 mins)

  • Dadl gan Aelod unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) - NNDM4862 Mick Antoniw (Pontypridd), Nick Ramsay (Mynwy), Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru), Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru), Byron Davies (Gowllewin De Cymru), Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth), Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd), Keith Davies (Llanelli), Christine Chapman (Cwm Cynon), Lynne Neagle (Tor-faen), Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer system teithio cyflym integredig (metro) yn seiliedig ar rwydwaith rheilffyrdd y cymoedd;

2. Yn cydnabod nad yw trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu’r metro; a

3. Yn cydnabod y bydd y cyd-destun ariannol presennol, ynghyd â diffyg pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y prosiect yn symud yn ei flaen bob yn dipyn ac y bydd yn galw am ddull cydweithredol wedi’i gydgysylltu gan Lywodraeth Cymru.

Gyda chefnogaeth:
Julie James (Gorllewin Abertawe)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhydfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) (30 munud)

Dydd Mawrth 10 Ionawr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Comisiynydd Pobl Hyn Cymru: Gofal gydag Urddas? – Cynnydd (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2011 (15 munud)

  • Dadl ar Ddiogelwch Cymunedol (60 munud)

  • Dadl ar Raglenni Ewropeaidd (60 munud)

Dydd Mercher 11 Ionawr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn (Ken Skates) (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 17 Ionawr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Trawsnewid (30 munud)  

  • Dadl ar Newidiadau i Fudd-dal Tai (60 munud)

  • Dadl ar Bolisi Cynllunio ar gyfer Datblygu Economaidd (60 munud)

Dydd Mercher 18 Ionawr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweindog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 mins)

  • Cwestiynau i’r Gweindog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth  (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)