29/11/2022 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 29/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/11/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd – Y Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi (30 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (180 munud)

 

 

 

 

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)   
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cyfraith Mark Allen - Diogelwch dŵr ac atal boddi (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 (90 munud)
  • Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (15 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Trais ar Sail Rhywedd – Anghenion Menywod Mudol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud) 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 10 Ionawr2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-2024 (90 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 11 Ionawr 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Asedau Cymunedol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)