30/04/2019 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 30/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/04/2019

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn


Dydd Mawrth 7 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg (45 munud)
  • Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol (60 munud)
  • Dadl: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru (60 munud)

 
Busnes y Cynulliad

  • Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)

Busnes y Llywodraeth

  • Anerchiad gan y Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)

 

Dydd Mercher 8 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)

 Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer: Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)

Dydd Mawrth 14 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia (45 Munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd (60 munud)

 
Dydd Mercher 15 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau (30 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Lynne Neagle (Torfaen) (30 munud)

Dydd Mawrth 21 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Glasbrintiau Cyfiawnder (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gynllun y Grŵp Arbenigwyr ar Ddiogelwch Adeiladau  (45 munud)


Dydd Mercher 22 Mai 2019

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (30 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)