31/01/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 31/01/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/01/2023   |   Amser darllen munudau

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (120 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaeth (Cymru)
  • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaeth (Cymru)

 

 

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Absenoldebau Disgyblion (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin (30 munud)
  • Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud)
  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24 (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)
  • Dadl Fer: Sian Gwenllian (Arfon) (30 mins)

 

 

Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymru: cymuned o gymunedau (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Cynnydd Cynllun 5 mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau (30 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (5 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22 (60 munud)
  • Dadl: Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru -  Ebrill 2021 i Ragfyr 2022 (30 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) 30 munud)