Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 06/06/2023

Cyhoeddwyd 06/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru – diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Datganiad Ansawdd ar gyfer Diabetes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin – Tosturi (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus (15 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (5 munud)

 

 

Dydd Mercher 14 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy – cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:  Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (90 munud)

 

 

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deintyddiaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                    

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio’r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru - diweddariad (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 (15 munud)
  • Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (5 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (5 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 28 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 60% - Rhoi llais iddyn nhw Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1340: Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud)