Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 17/05/2022

Cyhoeddwyd 17/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 24 Mai 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Y Jiwbilî Platinwm (60 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 25 Mai 2022

Busnes y Llywodraeth        

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 7 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol: Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig – Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Ddiwylliant a Threftadaeth: Hanes, Diwylliant a Threftadaeth Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Proffesiynol yng Nghwricwlwm Newydd Cymru (gan ganolbwyntio ar Ddysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth) (30 munud)
  • Dadl: Adolygiad Blynyddol 2021-21 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (60 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 8 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)  
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 14 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwastadeddau Gwent / Ardaloedd sy’n Esiampl i Eraill o ran Adfer Natur (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Drafft ar HIV (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (30 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (5 munud)
  • Dadl: Darlledu (60 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher 15 Mehefin 2022

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 mun)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)