Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 23/04/2024

Cyhoeddwyd 23/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

 

Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (360 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg (45 munud) 
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud) 

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Gaeaf cynhesach P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Peredur Owen Griffiths AS (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                             

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy (45 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (5 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan - dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Alun Davies AS (Blaenau Gwent) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (30 munud)

 

Dydd Mercher 15 Mai 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Cefin Campbell AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)