Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: John Griffiths AC - Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Dyddiad cyflwyno: 7 Gorffennaf 2008

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 13 Mai 2009


Mae’r Mesur hwn yn gam tuag at weithredu Llwybrau Dysgu 14 - 19 ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, diben y Mesur yw sicrhau bod modd i ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed ddewis o ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a chyffredinol.


Mae’r Mesur hefyd yn rhoi cyfle cyfartal i ddysgwyr rhwng 14 a 19 oed i ddewis nifer o opsiynau addysgiadol, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Mesur fel y'i cyflwynwyd - 07/07/2008

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan Y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru)

Adroddiad Cyfnod 1 ar Y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig Ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru) -02/12/2008

Ar 9 Rhagfyr 2008, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlogi, gyfeirio’r Mesur arfaethedig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ar gyfer trafodion Cyfnod 2.

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan Y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2.

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mawrth 2009 

Mesur fel Y'i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn