Mesur Tai (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Jocelyn Davies AC - Y Dirprwy Weinidog dros Dai

Dyddiad cyflwyno: 22 Tachwedd 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Mai 2011


Mae’r Mesur hwn yn gwneud darpariaethau sy’n ei gwneud yn bosibl i ddarparu tai fforddiadwy mewn modd effeithiol yng Nghymru. Mae’r Mesur yn cynnwys dwy elfen gyffredinol:

  • Mae’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i atal dros dro yr hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael a feddir gan denantiaid darparydd tai cymdeithasol yng Nghymru, ar gais gan Awdurdod Tai Lleol mewn ardaloedd sydd o dan bwysau oherwydd prinder tai; a
  • Mae’r Mesur yn rhoi rhagor o bwerau rheoleiddio a phwerau ymyrraeth i Weinidogion parthed y ddarpariaeth o dai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 22 Tachwedd 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 16 Tachwedd 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio'r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Tai (Cymru) 2011 arfaethedig – 18 Ionawr 2011

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 

22 Mawrth 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn