Cawcws Menywod y Senedd

Cawcws Menywod y Senedd

Sefydlwyd Cawcws Menywod y Senedd yn y Chweched Senedd fel fforwm trawsbleidiol i Aelodau, a ddaeth â seneddwragedd o bob plaid at ei gilydd i ddarparu cymorth gan gymheiriaid ac i hybu cydraddoldeb rhywiol.

Roedd Cawcws y Chweched Senedd yn cynnwys pob menyw oedd yn Aelod o’r Senedd, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AS a Grŵp Llywio o gynrychiolwyr o bob plaid.

Gweledigaeth a Nod

Gweledigaeth a Nod

Y weledigaeth

Cymru sy’n gyfartal o ran y rhywiau ac yn gwbl gynhwysol, lle:

  • mae pawb yn cael eu grymuso i ymgysylltu â gwleidyddiaeth (fel dinasyddion ac fel cynrychiolwyr etholedig) waeth beth fo'u rhywedd a’u nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys statws economaidd-gymdeithasol, ac
  • mae polisïau, cyfreithiau, rhaglenni a chyllidebau wedi'u cynllunio i fod yn sensitif i anghenion a phrofiadau amrywiol y boblogaeth.

 

Y genhadaeth

Dod ag Aelodau benywaidd o’r Senedd at ei gilydd o bob plaid wleidyddol er mwyn:

  • gweithio'n bwrpasol i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth a nodi'r rhwystrau presennol o fewn ein system seneddol.
  • datblygu a hyrwyddo polisi ac ymarfer sy'n mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar ein seneddwyr benywaidd a’n cymdeithas.
  • bwrw ymlaen ag agenda’r Cawcws y cytunwyd arni o fewn pleidiau gwleidyddol a meysydd dylanwad eraill y Senedd.

 

Fe wnaeth y Cawcws gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau wrth geisio cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad effeithiol mewn gwleidyddiaeth a gwella cydraddoldeb o fewn y Senedd ac mewn cymdeithas, a hynny mewn modd blaengar.

Digwyddiad mwyaf diweddar

Adroddiad y Chweched Senedd

Cyhoeddodd Cawcws Menywod y Senedd ei adroddiad ar gyfer y Chweched Senedd, oedd yn ymdrin â'i weithgareddau gan gynnwys gweithgaredd rhyngwladol a gwaith ymgysylltu.

 

Mae’r adroddiad ar gael i’w darllen yma.

Cawcws Menywod

Diweddariadau Diweddar

Mwy o wybodaeth

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd

Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: womenscaucus@senedd.wales

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.