Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd

Cyhoeddwyd 11/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2020   |   Amser darllen munudau

Y Llywydd blaenorol fydd yn cadeirio’r trafodion i ethol y Llywydd newydd. Fodd bynnag, ni all y Llywydd blaenorol gadeirio’r trafodion os yw’n dymuno cael ei enwebu i’w ethol yn Llywydd. Os yw’r Llywydd blaenorol yn dymuno sefyll i’w ethol yn Llywydd, Clerc y Senedd sydd i gadeirio trafodion yr etholiad. Mae’r gweithdrefnau ar gyfer ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yr un fath yn union, ac fe'u hamlinellir isod:

Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd

Y trefniadau ar gyfer cynnal Pleidlais Gyfrinachol

Os bydd angen cynnal pleidlais gyfrinachol, bydd y Cadeirydd yn gohirio’r cyfarfod (am gyfnod sydd i’w bennu ganddo). Bydd pob Aelod yn cael papur pleidleisio a byddant yn bwrw eu pleidlais ac yn rhoi’r papur yn y blwch pleidleisio. Clerc y Senedd fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses bleidleisio a’r broses o gyfri’r pleidleisiau. Os un enwebiad yn unig sy’n dod i law, bydd gofyn i Aelodau bleidleisio o blaid neu yn erbyn yr Aelod a enwebwyd. Os daw mwy nag un enwebiad i law, bydd gofyn i Aelodau ddethol yr ymgeisydd y maent yn ei ffafrio. Yn y ddau achos, caiff Aelodau ymatal rhag pleidleisio. Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu a’r naill a’r llall wedi cael nifer cyfartal o bleidleisiau yn y bleidlais gyfrinachol, cynhelir pleidleisiau cyfrinachol pellach nes i un ymgeisydd gael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac os na fydd yr un ohonynt yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol, bydd yr ymgeisydd sydd a’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei dynnu o’r broses. Cynhelir pleidleisiau cyfrinachol pellach nes i un ymgeisydd gael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.

Canlyniad etholiad y Llywydd

Bydd y Cadeirydd yn datgan canlyniad yr etholiad yn y Siambr. Bydd yr Aelod sydd wedi’i ethol yn Llywydd yn tyngu’r llw os na fydd eisoes wedi gwneud hynny, a bydd yn mynd i’r Gadair ar unwaith i gadeirio unrhyw fusnes sy’n weddill ar agenda’r Cyfarfod Llawn, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd. Mae’n bosibl hefyd y bydd y Llywydd newydd yn dewis traddodi araith dderbyn.


Ethol Dirprwy Lywydd

Bydd y broses o ethol Dirprwy Lywydd yn dilyn etholiad y Llywydd ar unwaith. Ni all y Senedd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd sydd:

  • o’r un grŵp gwleidyddol;
  • yn perthyn i wahanol grwpiau gwleidyddol a'r ddau grŵp hynny'n rhan o'r llywodraeth;
  • yn perthyn i wahanol grwpiau gwleidyddol heb fod y naill na'r llall o'r grwpiau hynny'n rhan o'r llywodraeth.

Er hynny, gall unrhyw Aelod wneud cynnig i ddatgymhwyso’r rheol hon cyn ethol y Dirprwy Lywydd. Gellir gwneud y cynnig heb hysbysiad, ond rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio ei gefnogi. Os yw’r Llywydd a’r Dirprwy a etholir yn digwydd dod o fewn un o’r categoriau a restrir uchod yn ystod oes y Senedd (heb i’r naill na’r llall ymddiswyddo) gall unrhyw Aelod wneud cynnig yn y Cyfarfod Llawn nesaf y dylai’r Llywydd a’r Dirprwy aros yn eu swyddi. Unwaith eto, rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio gefnogi’r cynnig.