Dadleuon, cynigion a gwelliannau

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/12/2020   |   Amser darllen munudau

Dadleuon

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl  yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon y Llywodraeth;
  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
  • dadleuon pwyllgor sy'n ymwneud ag adroddiad a gyhoeddwyd gan bwyllgor;
  • dadleuon a gynigir gan Aelodau unigol nad ydynt yn aelodau o'r Llywodraeth.

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Cynigion a Gwelliannau

Seilir pob dadl ar gynnig ac ar unrhyw welliannau sy'n gysylltiedig â hi.  

Ffordd o sicrhau penderfyniad gan y Senedd yw cynnig, ac, ar wahân i pan fydd y cyfres o reolau a elwir yn 'Rheolau Sefydlog' yn dweud fel arall, mae'n bosib cynnig gwelliant iddo.

Pwrpas gwelliant yw addasu cynnig er mwyn ei wneud yn fwy derbyniol neu gyflwyno cynnig i'r Senedd sy'n wahanol i'r cynnig gwreiddiol.  Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig neu welliant. Os na fydd dadl yn un o ddadleuon y Llywodraeth, ni chaiff pwnc y ddadl honno'i gynnwys yn y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busnes.

Yn hytrach, bydd pynciau'r dadleuon hyn yn cael eu cyhoeddi wythnos o flaen llaw pan gyflwynir y cynnig perthnasol.

Strwythur a chanlyniad dadl

Bydd dadl fel rheol yn dechrau gyda Aelod yn cyflwyno pwnc y ddadl honno, a gelwir hyn hefyd yn 'gwneud cynnig'.

Penderfynir pwy a ddylai gyflwyno'r pwnc ar sail pa fath o ddadl yw hi. Er enghraifft, un o Weinidogion Cymru a fydd yn cyflwyno dadl ar ran y Llywodraeth a Chadeirydd pwyllgor fydd yn cyflwyno dadl ynglŷn ag adroddiad gan y pwyllgor hwnnw.

Os bydd Aelod wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig, fe'i gwahoddir i esbonio pam mae'n gofyn i'r Senedd ddiwygio'r cynnig gwreiddiol. Yna, bydd y Llywydd (neu'r Dirprwy) yn galw ar Aelodau eraill sydd wedi gofyn am gael siarad am y pwnc. Mewn dadleuon ynglŷn ag adroddiadau gan bwyllgorau neu ddadleuon gan wrthblaid, bydd y Gweinidog yn ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau.

Yn olaf, bydd yr Aelod a gyflwynodd y ddadl yn cyflwyno sylwadau cloi gerbron y Senedd. Ar ddiwedd dadl, bydd y Llywydd yn gofyn i'r Senedd dderbyn y cynnig.

Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais ar y cynnig. Mae'n bosib y gofynnir i'r Aelodau bleidleisio ar unwaith, neu mae'n bosib y gofynnir iddynt wneud hynny ar adeg arbennig, sef y 'cyfnod pleidleisio'.

Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau pleidleisio i'w gweld yma

Dadleuon Byr

Mae dadleuon byr yn wahanol i ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater sy'n ymwneud â'r etholaeth.

Ni fydd gofyn i'r Senedd bleidleisio ar ddiwedd y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn).  

Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis.

Bydd yr Aelod yn agor y ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r Comisiynydd Senedd sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.