Rhaid i unrhyw Aelod sydd am gynnig Bil wneud cais i gael ei gynnwys mewn balot a gaiff ei gynnal gan y Llywydd. I fod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau hefyd gyflwyno rhywfaint o wybodaeth cyn y balot, gan gynnwys teitl arfaethedig y Bil a’i amcanion polisi.
Caiff Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig wedyn, sy’n gofyn i’r Senedd gytuno iddo gyflwyno Bil, i roi grym i’r cynnig sydd wedi’i gynnwys yn y balot. Os cytunir ar y cynnig hwnnw, bydd gan yr Aelod naw mis i gyflwyno Bil yn ffurfiol.
Unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno, mae Bil Aelod yn ddarostyngedig i’r un broses graffu â Biliau eraill.