Cynnig 008 - Altaf Hussain AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Altaf Hussain AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Mynd i'r Afael â Digartrefedd (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Byddai'r Bil yn gwneud darpariaethau o ran targedau a pholisïau i leihau digartrefedd yng Nghymru.

Diben y Bil hwn fyddai:

  1. Penodi Comisiynydd Digartrefedd;
  2. Gwarantu cyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai am gyfnod o dair blynedd o leiaf.
  3. Corffori yn y gyfraith ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu ar y stryd yng Nghymru erbyn 2030.