Cynnig 016 - James Evans AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

James Evans AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Iechyd Meddwl (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Darparu ar gyfer disodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; gwarantu cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.