Cynnig 031 - Jane Dodds AS

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Jane Dodds AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Grymuso Cymunedau (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Mae i’r Bil yr amcanion polisi a ganlyn:

Cofrestr Asedau o Werth Cymunedol – creu mandad i awdurdodau lleol gadw cofrestr i gofnodi asedau o werth cymunedol, y gall cymunedau enwebu asedau i fod yn rhan ohoni.

Hawl y Gymuned i Brynu – creu hawl statudol i brynu asedau cofrestredig o werth cymunedol y cynigir eu bod yn cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo. Byddai hyn yn rhoi hawl ymarferol i gymunedau gael y cynnig cyntaf i brynu asedau y gallai’r gymuned eu colli fel arall.