Ar 8 Tachwedd 2025, lansiodd Mark Isherwood AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi’r gyfraith arfaethedig. Disgwylir i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 17 Ionawr 2025.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn awr yn ceisio barn ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi sydd ynddo.

Gweld y llythyr ymgynghori (403KB PDF)

Gweld y ddogfen ymgynghori ysgrifenedig (519KB PDF)

Lawrlwytho Word Document i baratoi eich atebion (743KB Docx)

Gellir llwytho ymatebion a gyflwynir drwy gyfrwng BSL drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb ar-lein. Yn y man cyntaf, bydd y ffurflen yn gofyn am eich manylion fel ymatebydd. Mae angen y manylion hyn ar gyfer pob ymateb, ym mha bynnag fformat neu iaith y maent yn cael eu cyflwyno. Unwaith y bydd y manylion cychwynnol hynny wedi'u nodi, gallwch ddewis ymateb drwy gyfrwng BSL, neu yn Saesneg neu Gymraeg. Os byddwch yn dewis BSL, byddwch yn gallu cyflwyno fideo a’i arbed mewn ffolder o fewn y system ar-lein, a hynny’n ddiogel. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud hyn.

1. Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig

Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth i wneud darpariaeth i hybu a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng BSL a chefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy’n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol nag unigolion sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sefydlu rôl Comisiynydd BSL gyda’r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill.

Cam i'w gymryd: Ymatebion erbyn 17 Ionawr 2025

Mae’r ddogfen hon ar gael yn yr ieithoedd a ganlyn: BSL, Cymraeg, a Saesneg.

Trosolwg: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar yr amcanion polisi a’r cynigion ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru).

Sut i ymateb: Dylid e-bostio neu bostio ymatebion gan ddefnyddio'r manylion isod, neu drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb ar-lein, erbyn 17 Ionawr 2025 fan bellaf. Gellir llwytho ymatebion BSL i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r porth BSL ar dudalen yr ymgynghoriad. 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio: Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan Aelodau o’r Senedd (gan gynnwys yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil), staff cymorth neu staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

I gael y manylion llawn am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gweler polisi’r Senedd ar Ymgynghoriadau ar Filiau Aelod – Hysbysiad Preifatrwydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Bil Aelod ar gael yn y Canllaw i’r broses ar gyfer Bil Aelod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gareth Rogers, Clerc – Cymorth Craffu
Senedd Cymru
Tŷ Hywel
Bai Caerdydd
CF99 1SN

e-bost: BiliauAelod@senedd.cymru

2. Cyflwyniad

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddrafft hon yn unol â'r rheolau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd, sy'n galluogi Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth i gynnig cyfreithiau newydd i Gymru.

Ym mis Ebrill 2024, roeddwn yn llwyddiannus mewn balot a gynhaliwyd o dan Reol Sefydlog 26.87 y Senedd ac enillais yr hawl i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd. Cyflwynais gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru). Yn unol â’r Rheolau Sefydlog, datblygais fy nghynnig ymhellach a chyhoeddais Femorandwm Esboniadol yn nodi'r amcanion polisi a phrif nodau'r cynnig yn fanylach.

Ar 19 Mehefin 2024, cynhaliwyd dadl ‘caniatâd i fwrw ymlaen’, a chytunodd y Senedd y gallwn gyflwyno Bil o fewn 13 mis i ddyddiad y ddadl honno er mwyn rhoi’r cynnig a ddewiswyd yn y balot cynharach ar waith, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd yn y Memorandwm Esboniadol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi y mae'n ceisio eu cyflawni. Nid oes rhaid i ymatebwyr ateb pob cwestiwn, ond byddai'n ein helpu i barhau i ddatblygu'r Bil os gellid sicrhau bod unrhyw ateb a roddir yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl.

3. Cefndir a Diben y Bil drafft

1. Diben y Bil Iaith Awyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gwneud darpariaeth i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng BSL a chefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

2. Byddai’r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg, ac yn sicrhau bod gan gymunedau byddar lais yn ystod y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion.

3. Mae gan y DU a'r Alban eu deddfwriaeth eu hunain mewn perthynas â BSL. Bydd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) arfaethedig yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer Cymru.

4. Beth fydd y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yn ei wneud?

4. Prif nodau’r Bil yw:

  • cefnogi’r broses o chwalu’r rhwystrau presennol sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym meysydd addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
  • sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
  • sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu’r gwasanaethau a ddefnyddir ganddynt i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;
  • sefydlu Comisiynydd BSL sydd â’r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill;
  • rhoi dyletswydd ar y Comisiynydd arfaethedig, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyflwyno adroddiadau.

5. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig yn y Memorandwm Esboniadol amlinellol, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024.

5. Yr angen am ddeddfwriaeth

6. Er bod Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 y DU wedi cael ei chroesawu, dim ond i Lywodraeth y DU y mae ei darpariaethau’n gymwys.

7. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol y DU i gyflwyno adroddiadau ar hybu a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau Llywodraeth y DU, ac i ddyroddi canllawiau yn fwy cyffredinol ynghylch hybu a hwyluso’r defnydd o BSL. Fodd bynnag, nid yw’r dyletswyddau hyn yn gymwys i faterion y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt yng Nghymru, megis Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Felly, nid yw’n diwallu anghenion defnyddwyr/arwyddwyr a’r gymuned Fyddar ehangach yng Nghymru.

8. Bydd y Bil yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hybu'r defnydd o BSL.

9. Bydd y Bil yn hefyd yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar eu cynnydd o ran hybu a hwyluso BSL drwy gylch adrodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015). Byddai sicrhau bod BSL yn cael ei chynnwys yng nghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymgorffori BSL yn y fframweithiau polisi a chyfreithiol presennol yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n gost-effeithiol drwy ddefnyddio strwythurau presennol i greu cymdeithas decach ar gyfer defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn y tymor hir.

6. Rhwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar

10. Mae'r gymuned Fyddar yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyfathrebu, gan arwain at ynysu cymdeithasol, cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig, a llai o fynediad at wasanaethau hanfodol. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod BSL fel iaith yn ei rhinwedd ei hun, nid oes digon o adnoddau ar gael ledled y DU ar gyfer yr 87,000 o unigolion sy’n defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf.

7. Plant a phobl ifanc byddar

11. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi nodi’n flaenorol bod diffyg cymorth ar gael i sicrhau y gall aelodau o’r teulu ddefnyddio BSL, gyda diffyg sgiliau cyfathrebu, gan osod rhwystr diangen ac annheg rhwng defnyddwyr/arwyddwyr BSL a’u teuluoedd. Amcangyfrifwyd bod 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i rieni sy’n clywed heb unrhyw brofiad blaenorol o fyddardod, felly gall dysgu bod eu plentyn yn fyddar fod yn gyfnod emosiynol a dryslyd i rieni a gofalwyr.

12. Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus mewn canlyniadau. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi nodi bod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn datgan bod plant a phobl ifanc byddar, ochr yn ochr â’r rhai sy’n ddall neu â nam ar eu golwg, “yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o'u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol”.

8. Cyrhaeddiad addysgol

13. Yn gyffredinol, mae cyrhaeddiad addysgol dysgwyr byddar yn is o gymharu â phlant sy'n clywed. Mae plant byddar tua 26 y cant yn llai tebygol o gyflawni graddau A*-C yn y pynciau craidd, sef Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth na’u cyfoedion sy’n clywed.

14. Mae ystadegau hefyd yn dangos bod 86 y cant o blant byddar yn cyflawni Dangosydd y Cyfnod Sylfaen o gymharu â 96 y cant o blant sy’n clywed.

15. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall plant sydd â mynediad annigonol at unrhyw fath o iaith brofi amddifadedd iaith. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau gydol oes difrifol o ran datblygiad ieithyddol, emosiynol a gwybyddol plant byddar, yn ogystal â’u llesiant. Ar hyn o bryd, nid oes rhaglen genedlaethol o ddarpariaeth BSL yn ystod y blynyddoedd cynnar ar gyfer plant byddar yn y DU.

16. Mae gan lawer o ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar oedran darllen a deall is na’r boblogaeth gyffredinol o ganlyniad i allgau ieithyddol, a gallant wynebu allgau cymdeithasol o ganlyniad uniongyrchol i hyn, a all effeithio’n andwyol ar gyflogaeth, addysg a gofal iechyd.

9. Sefydlu Comisiynydd BSL Cymru

17. Byddai sefydlu Comisiynydd BSL yng Nghymru sydd â'r un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill yn arwydd cryf o gefnogaeth i'r gymuned defnyddwyr/arwyddwyr BSL.

18. Mae defnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar a sefydliadau a arweinir gan bobl fyddar yn sôn yn rheolaidd am heriau sylweddol o ran cyflogaeth, gofal iechyd ac addysg oherwydd diffyg mynediad at BSL. Byddai llunio safonau BSL yn sicrhau bod canllawiau cyfathrebu clir yn cael eu dosbarthu ar draws cyrff a gwasanaethau cyhoeddus Cymru a bod y cyrff a gwasanaethau hynny’n cydymffurfio â hwy, ac yn gosod rhwymedigaeth i hybu a hwyluso BSL.

19. Bydd natur a statws y Comisiynydd yn cael eu datblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth i’r Bil fynd rhagddo. Y disgwyliadau cychwynnol yw y byddai’r Comisiynydd yn:

  • llunio safonau BSL;
  • sefydlu panel cynghori BSL;
  • gosod rhwymedigaeth statudol i gynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd ar sefyllfa BSL yn ystod y cyfnod hwnnw;
  • darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hybu a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
  • sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion.

Y Panel Cynghori BSL

20. Cynigir y byddai Panel Cynghori BSL yn cynnwys arwyddwyr BSL o Gymru sy'n deall y problemau a wynebir gan ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru ac yn cynnwys yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli. Byddai’r Panel hefyd yn gallu rhoi cyngor clir i’r Comisiynydd BSL ynghylch materion polisi, a rhoi arweiniad i wasanaethau cyhoeddus Cymru ar sut i ymgysylltu â defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru a sicrhau eu bod yn rhan o'r broses gynllunio a darparu.

Llunio adroddiadau bob pum mlynedd ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw

21. Bydd disgwyl i’r Comisiynydd arfaethedig osod safonau, polisi a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Byddai adroddiadau yn caniatáu i gynnydd gael ei olrhain, ac i dueddiadau gael eu meincnodi dros dymor hwy, a gellid defnyddio hyn, yn ei dro, ar gyfer strategaeth hirdymor. Gallai lywio penderfyniadau polisi a sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, gan feithrin perthynas dda â defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn ei dro.

Sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion

22. Prin yw’r llwybrau ar hyn o bryd i ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL wneud cwynion yng Nghymru, yn enwedig gan fod prosesau cwyno fel arfer yn Gymraeg neu yn Saesneg ac, felly, gall defnyddwyr/arwyddwyr BSL wynebu heriau sylweddol.

23. Ar hyn o bryd, mae defnyddwyr/arwyddwyr BSL yng Nghymru yn wynebu rhwystrau gweinyddol a chyfreithiol sylweddol o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, efallai y byddant yn mynd i apwyntiadau meddygol lle nad oes Cyfieithydd BSL/Saesneg/Cymraeg wedi'i drefnu. Ymddengys bod hyn yn digwydd yn aml nid yn unig mewn lleoliadau iechyd, ond ar draws yr ystod lawn o wasanaethau cyhoeddus, fel y nodir gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn ei Harchwiliad o Lywodraeth Cymru ar gyfer Adroddiad Siarter Iaith Arwyddion Prydain 2022.

24. Ffactor sy’n gwaethygu'r diffyg mynediad hwn yw nad yw’r dull hwn o ddarparu gwasanaethau yn cael ei herio gan nad yw defnyddwyr/arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y mecanweithiau gorfodi a chwyno sydd ar waith. Dylai sefydlu gweithdrefn gwyno BSL fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn hybu atebolrwydd ac yn lleihau'r posibilrwydd y bydd cyrff cyhoeddus yn cael eu herlyn am esgeulustod. Bydd y gallu i feithrin prosesau cwyno mewn BSL hefyd yn gwella boddhad dinasyddion ac yn golygu y gellir cyflawni amcanion llesiant hirdymor.

10. Cefnogaeth ar gyfer y ddeddfwriaeth arfaethedig

25. Ym mis Hydref 2018, roedd galwadau yng nghynhadledd ‘Clust i Wrando 2018’ yng Ngogledd Cymru am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru.

26. Yn ystod y Bumed a’r Chweched Senedd, cyflwynais Gynigion Deddfwriaethol gan Aelod i asesu lefel y gefnogaeth gan Aelodau o’r Senedd ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaeth i annog y defnydd o BSL, yn ogystal â gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL. Cafodd y cynigion hyn eu trafod ar 24 Chwefror 2021 a 7 Rhagfyr 2022. Pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynigion ar y ddau achlysur.

27. Dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw Cymru fod amcanion polisi’r Bil arfaethedig yn gadarnhaol ac yn mynd y tu hwnt i ddarpariaethau Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 y DU drwy gynnwys ymrwymiad i lunio adroddiadau bob pum mlynedd, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth weithredu’r Bil.

28. Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i ddatblygu Siarter BSL newydd i Gymru, dywedodd y Gymdeithas wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Aeth y Gymdeithas ymlaen i ychwanegu mai thema gyffredin sy’n cael ei mynegi gan y gymuned Fyddar yng Nghymru yw’r awydd:

  • am fwy o arweinyddiaeth gan bobl fyddar yng Nghymru yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau BSL;
  • bod gwasanaethau BSL yn cael eu darparu gan ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL sy’n fyddar eu hunain; a
  • bod cymorth ar gael i alluogi pobl fyddar i arwain gweithgarwch ym meysydd cynllunio proffesiynol a phennu cyllidebau mewn perthynas â materion BSL.

29. At hynny, mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi nodi eu bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol ac amcanion polisi'r Bil arfaethedig.

11. Y camau nesaf

30. Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cofnodi wrth iddynt ddod i law ac yn cael eu dadansoddi ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Caiff adroddiad ar yr ymatebion ei lunio a'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil drafft.

Gweld y llythyr ymgynghori (403KB PDF)

Gweld y ddogfen ymgynghori ysgrifenedig (519KB PDF)

Lawrlwytho Word Document i baratoi eich atebion (743KB Docx)

Dylid cyflwyno ymatebion drwy gyfrwng BSL drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, sy'n cynnwys canllawiau penodol ar y broses hon.