Rhestr o deisebau ar cyfrifiadur bwrdd gwaith

Rhestr o deisebau ar cyfrifiadur bwrdd gwaith

Hyrwyddwch eich deiseb

Cyhoeddwyd 30/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/11/2022   |   Amser darllen munudau

Ar ôl creu? deiseb, y cam nesaf yw ei hyrwyddo drwy godi ymwybyddiaeth ohoni a chasglu llofnodion ar ei chyfer. Cofiwch, mae’n rhaid casglu 250 o lofnodion cyn i'ch deiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer sut i godi ymwybyddiaeth a chyrraedd y nod rydych yn deisebu yn ei gylch.

Ar lafar

Soniwch? wrth eich teulu a'ch ffrindiau am gynnwys eich deiseb a sut y gall eu llofnodion nhw helpu i'ch cefnogi. Eglurwch arwyddocâd eich deiseb, gan gynnwys y canlyniadau a'r manteision posibl.

Bydd darparu'r wybodaeth hon yn rhoi dealltwriaeth dda iddynt o ddiben eich deiseb, a all arwain at effaith gynyddol; gallant rannu'r neges yn hyderus â’u cyfeillion, a bydd y cyfeillion hynny yn gallu rhannu’r neges hefyd, felly bydd yr effaith yn lledaenu’n fwy fyth.

Gwnewch y defnydd gorau posibl o rwydweithiau, clybiau cymdeithasol neu grwpiau rydych yn aelod ohonynt, fel cymuned eglwys, undeb, grŵp hanes lleol neu grŵp amgylcheddol, lle mae pobl yn debygol o rannu diddordeb ym mhwnc eich deiseb. Gall hyn fod yn ffordd wych o gyrraedd grŵp cyfan o bobl ar yr un pryd. Gall sefydliadau mawr ac elusennau gefnogi’r ddeiseb hefyd os yw’n berthnasol i’r gwaith y maent yn ei wneud; er enghraifft, os yw’ch deiseb yn galw am ymwybyddiaeth amgylcheddol, gallech gysylltu â Chyfeillion y Ddaear, Greenpeace, RSPB ac ati.

Cyfryngau cymdeithasol

Ma’r cyfryngau cymdeithasol yn newid yn barhaus ac mae bob amser ffyrdd newydd a difyr y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo'ch deiseb ar lwyfan digidol. Efallai mai dyma hefyd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfa ehangach oherwydd mae’n cynnig cyfle ichi gyrraedd pobl ledled y wlad sy’n teimlo’n angerddol am yr un pynciau â chi.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch wneud hyn:

  • Anfon gwybodaeth am eich deiseb dros e-bost/neges destun – Anfonwch negeseuon testun neu negeseuon e-bost at eich cysylltiadau i egluro cynnwys eich deiseb. Cofiwch gynnwys linc y gellir ei dilyn. Mae’n bosibl y bydd gan sefydliadau restr e-bostio y gallwch ei defnyddio i anfon negeseuon e-bost at yr holl bobl sy’n ymgysylltu â nhw. Mae gwefan Deisebau'r Senedd hefyd yn cynnwys botwm i rannu'ch deiseb yn rhwydd; er enghraifft, drwy WhatsApp.
  • Creu hashnodau – Mae Twitter ac Instagram yn defnyddio nodwedd 'hashnod' sy'n galluogi cefnogwyr i ddilyn ymgyrch a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdani. Gellir defnyddio'r nodwedd hon hefyd i nodi'n rhwydd yr unigolion hynny sydd wrthi’n siarad am y pwnc dan sylw ac i annog ymgysylltiad. Dylech greu hashnod i gysylltu'r negeseuon rydych yn eu cyhoeddi yn uniongyrchol â'r ymgyrch, gan ei gwneud yn rhwyddach dod o hyd i'r holl gynnwys cysylltiedig mewn un lle. Hefyd, gallech chwilio am hashnodau sydd eisoes yn bodoli ac sy’n berthnasol i'ch pwnc chi, gan eu hychwanegu at y cynnwys rydych yn ei gyhoeddi i ddenu mwy o sylw ato; er enghraifft, mae #YmwybyddiaethEndometriosis / #EndometriosisAwareness a #DiogelwchDŵr / #WaterSafety yn hashnodau a ddefnyddir gan ddeisebwyr.
  • Ffilmio fideos cryno sy’n gysylltiedig â'ch deiseb – Mae fideos byr oddeutu 10-15 eiliad o hyd yn fwy tebygol o hoelio sylw cynulleidfa. Felly, os oes gennych sgiliau fideograffi a golygu, efallai mai TikTok ac Instagram yw’r llwyfannau cymdeithasol i chi!
  • Cysylltu â dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol – Os oes gan unrhyw unigolion sydd â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ddiddordeb yn y pwnc rydych yn deisebu yn ei gylch, gallech gysylltu â nhw i weld a ydynt yn fodlon cefnogi eich achos a rhannu gwybodaeth amdano â chynulleidfa fawr. Gall hyn fod trwy gyhoeddi neges neu 'stori' ar Instagram, neu hyd yn oed drwy aildrydar trydariad gennych chi.
  • Defnyddio adnodd i greu URL cryno – bydd linc cryno yn eich galluogi i’w gynnwys yn eich proffil ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y sylwadau ar gyfer fideos cysylltiedig, mewn erthyglau blog ac mewn trydariadau lle dim ond nifer gyfyngedig o nodau y gallwch eu defnyddio.
  • Ymuno â fforymau/grwpiau/sgyrsiau ar-lein – mae sgyrsiau ar-lein yn ffordd wych o rannu gwybodaeth am eich deiseb, yn ogystal â lincs ac ati, yn uniongyrchol; er enghraifft, os yw'ch deiseb yn trafod mater sy’n berthnasol i’ch ardal leol, gallai cyhoeddi neges ar dudalen y grŵp Facebook lleol ysbrydoli pobl eraill i weithredu a llofnodi’r ddeiseb.
  • RHANNU! – dylech annog pawb i hoffi, rhannu, gwneud sylwadau, postio, aildrydar, ail-flogio ac unrhyw beth arall posibl i godi ymwybyddiaeth!

Deisebwyr yn y SeneddY cyfryngau cymdeithasol yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o rannu gwybodaeth am eich deiseb. Enghraifft wych o ddeisebydd llwyddiannus a ddefnyddiodd y dacteg hon yn effeithiol yw Beth Hales, deisebydd a oedd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o Endometriosis.

“Y dulliau a ganlyn oedd fwyaf defnyddiol wrth imi geisio hyrwyddo fy neiseb:

Cyfathrebu - Dechreuais drafod y ddeiseb â fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr ac ati i godi ymwybyddiaeth ohoni, gan esbonio pam roedd y ddeiseb mor bwysig. Helpodd hyn imi ddod o hyd i bobl eraill oedd â diddordeb yn y pwnc ac a oedd yn awyddus i lofnodi'r ddeiseb a’i rhannu ymhlith eu rhwydweithiau, llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol ac ati.

Twitter - Dyma'r llwyfan mwyaf llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ysbrydoli pobl i lofnodi’r ddeiseb. Roeddwn yn rhannu’r linc i’r ddeiseb yn rheolaidd, ac yn gofyn i ffrindiau a theulu wneud yr un peth, a byddwn yn tagio pobl sydd â nifer uchel o ddilynwyr ac sydd â diddordeb cyffredin ym mhwnc y ddeiseb (er enghraifft, pobl enwog sy'n dioddef o endometriosis), gan ofyn iddynt aildrydar y neges. Roedd yr aildrydariadau hyn bob amser yn arwain at nifer uchel o lofnodion;

Ymgysylltu â rhanddeiliaid - Llwyddais i feithrin perthnasoedd â phobl, elusennau a busnesau a oedd yn gallu helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ddeiseb a’i rhannu o fewn eu rhwydweithiau i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn ei gweld.”

Cyfryngau allanol

Cysylltwch â phapurau newydd lleol a allai fod yn fodlon cynnwys eich deiseb a'r stori y tu ôl iddi. Nid pawb sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae papurau newydd lleol yn ffordd wych o gyrraedd pobl yn eich ardal. Gall ysgrifennu llythyr at bapurau newydd fod yn ffordd dda o dynnu sylw at eich deiseb hefyd.

Wrth gysylltu â newyddiadurwyr lleol, ystyriwch a oes gan eich deiseb elfen leol amlwg. Os yw’r mater wedi effeithio ar unigolyn penodol, gallai hyn olygu bod y cyfryngau am gynnal cyfweliad i nodi’r cefndir a’r profiad personol uniongyrchol hwnnw.

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach arnoch, cysylltwch â Thîm Clercio y Pwyllgor Deisebau dros e-bost yn deisebau@senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565