Meysydd o ddiddordeb ymchwil: Newid moddol a theithio llesol

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cyhoeddi newid ymddygiad mewn perthynas â newid moddol a theithio llesol fel Maes o Ddiddordeb Ymchwil. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn ymchwilio i’r hyn sy’n sbarduno newid ymddygiad mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfol, a’r ymyriadau polisi cysylltiedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.

Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y maes o ddiddordeb ymchwil, ychwanegu eu hymchwil bresennol yn y meysydd pwnc i gronfa’r maes hwn, rhoi eu mewnwelediad, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru.

Bydd y rhai sy’n ymateb i’r arolwg yn mynd i gronfa ddata o arbenigwyr a bydd staff y Senedd o bosibl yn cysylltu â nhw i’w helpu i gefnogi’r Pwyllgor wrth graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes diddordeb hwn. Nid oes angen cysylltu â staff y pwyllgor yn uniongyrchol, gan fod ganddynt fynediad i'r holl wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn y gronfa ddata.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o dan gronfa’r meysydd o ddiddordeb ymchwil i gwmpasu a chefnogi ei waith yn y dyfodol.

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ar newid moddol a theithio llesol