Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Aelodaeth a chyfarfodydd
Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2026   |   Amser darllen munud
Caiff pwyllgorau eu creu yn dilyn etholiad y Senedd.
Nid oes nifer benodol o bwyllgorau. Mae rheolau'r Senedd yn dweud y dylai fod digon o bwyllgorau i ymdrin â phob un o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
Mae’r gyfraith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael pwyllgor sy’n gyfrifol am waith archwilio.
Aelodaeth
Bydd pob grŵp gwleidyddol yn penderfynu pwy o blith ei aelodau fydd yn ei gynrychioli ar bob pwyllgor. Caiff y mater ei gytuno wedyn gan y Senedd gyfan. Mae nifer yr aelodau sydd gan grŵp gwleidyddol ar bwyllgor yn dibynnu ar nifer y seddi sydd gan y grŵp yn y Senedd.
Mae gwaith aelodau Pwyllgorau’n cynnwys:
cydweithio i gytuno ar raglen waith y Pwyllgor
gwneud gwaith ar faterion o’u dewis neu y gofynnir iddynt edrych arnynt
cyfrannu at adroddiadau a gwaith arall
cytuno ar argymhellion i'r Llywodraeth a sefydliadau eraill
Cadeiryddion Pwyllgorau
Mae pob Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan Aelod o’r Senedd.
Fel arfer, mae cadeiryddion pwyllgorau yn cael eu hethol gan y Senedd gyfan. Mae nifer y cadeiryddion sydd gan grŵp gwleidyddol yn dibynnu ar nifer y seddi sydd gan y grŵp yn y Senedd.
Mae cadeirydd Pwyllgor yn gyfrifol am arwain gwaith y Pwyllgor, a chadeirio cyfarfodydd.
Ethol cadeirydd pwyllgor
Gofynnir i Aelodau o’r Senedd enwebu pwy maent am ei weld yn gadeirydd ar bob un o bwyllgorau’r Senedd. Dim ond Aelodau sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo y gellir eu henwebu.
Os mai un Aelod yn unig a gaiff ei enwebu, ac nad oes unrhyw Aelod arall yn gwrthwynebu, etholir yr Aelod enwebedig yn gadeirydd. Os bydd gwrthwynebiad, neu os enwebir mwy nag un Aelod, cynhelir yr etholiad drwy bleidlais gudd.
Yn ystod y bleidlais gudd, bydd Aelodau yn bwrw pleidlais dros bwy maen nhw eisiau ei weld yn gadeirydd. Yna mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif ac mae'r canlyniad yn dibynnu ar nifer o senarios:
Un enwebiad, y gwrthwynebwyd iddo: Gofynnir i’r Aelodau bleidleisio o blaid yr ymgeisydd hwnnw neu yn ei erbyn. Er mwyn cael ei ethol, mae’n rhaid i'r Aelod gael mwy na hanner y pleidleisiau sy’n cael eu bwrw.
Dau enwebiad: Gofynnir i’r Aelodau ddewis yr ymgeisydd a ffefrir ganddynt. Yr Aelod sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Os yw'r bleidlais yn gyfartal, bydd yr Aelodau'n pleidleisio eto.
Mwy na dau enwebiad: Bydd Aelodau’n pleidleisio drwy raddio enwebeion yn nhrefn eu dewis. Os na chaiff yr un Aelod fwy o bleidleisiau na’r rhai sy’n cael eu bwrw dros yr holl ymgeiswyr eraill, mae’n rhaid hepgor yr ymgeisydd sydd â'r nifer leiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn y dewisiadau nesaf. Ailadroddir y broses hon nes i un ymgeisydd gael mwy o bleidleisiau na’r rhai sy’n cael eu bwrw dros yr holl ymgeiswyr eraill. Os bydd yn gyfartal rhwng y ddau ymgeisydd olaf – rhaid i'r Aelodau bleidleisio eto.
Trefniadau rhannu swydd i gadeiryddion pwyllgorau
Mae Rheolau'r Senedd yn caniatáu, mewn rhai amgylchiadau, i ddau Aelod gael eu henwebu a'u hethol i rannu swydd cadeirydd pwyllgor ar sail rhannu swydd. Pan fo dau Aelod yn rhannu swydd cadeirydd pwyllgor, ystyrir mai un cadeirydd ydynt (sy’n golygu un lle pwyllgor).
Cyfarfodydd
Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’n cyfarfod bob wythnos neu bob pythefnos pan fydd y Senedd yn eistedd.
Gallwch weld pryd mae pwyllgorau'r Senedd yn cyfarfod ar ein calendr.
Yn gyffredinol, bydd Pwyllgorau’n cyfarfod ar ystâd y Senedd ym Mae Caerdydd, ond gallant hefyd benderfynu cynnal cyfarfodydd mewn rhannau eraill o Gymru.
P'un ai ar ystâd y Senedd neu rywle arall, gall pwyllgor ddewis cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb, cyfarfod rhithwir, neu gymysgedd o'r ddau (a elwir yn "gyfarfod hybrid").
Mae fformat y cyfarfodydd yn cael ei benderfynu gan Bwyllgor unigol. Mae'r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau fel:
dewisiadau'r Cadeirydd a'r Aelodau
argaeledd aelodau'r pwyllgor
lleoliad ac anghenion tystion
y busnes sy'n cael ei ystyried
Mae Pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod yn gyhoeddus a gellir gwylio’r trafodion ar Senedd TV.
Gweld holl Bwyllgorau'r Senedd
Archwilio’r pwnc
Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd
Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor
Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau