Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Senedd ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin, mae’n dod yn ‘Ddeddf gan Senedd Cymru’. Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).
Canllawiau a Dogfennau Deddfwriaeth
Mae'r lincs a'r dogfennau isod yn cynnig gwybodaeth manwl am brosesau deddfu'r Senedd:
- Canllaw i’r Broses Ddeddfu (PDF 266KB)
- Deddf Llywodraeth Cymru 2006
- Deddf Cymru 2017
- Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiad gan Ddeddf Cymru 2017)
- Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiad gan Ddeddf Cymru 2017)
Canllaw i Filiau a Deddfau Cyhoeddus
Gall Lywodraeth Cymru, Pwyllgor o'r Senedd, Aelod unigol neu Gomisiwn y Senedd gynnig Bil Cyhoeddus. Mae gweithdrefnau’r Senedd sy’n berthnasol i Filiau Cyhoeddus wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26.
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:
- Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
- Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
- Cyfnod 3 - y Senedd yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
- Cyfnod 4 - pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil.
Mae cyfnod diwygio ychwanegol dewisol, a elwir yn gyfnod adrodd, y gellir ei gynnwys rhwng cyfnodau 3 a 4, os bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnig hynny a bod y Senedd yn ei gymeradwyo.
- Crynodeb o'r broses ar gyfer craffu ar Filiau Cyhoeddus gan y Senedd (PDF 114KB)
- Canllaw i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus (PDF 291KB)
- Canllaw i welliannau i Filiau (PDF 182KB)
- Canllawiau ar sut i gyflwyno gwelliannau i Filiau'r Senedd (PDF 345KB)
- Hynt Biliau'r Senedd
- Ddeddfau'r Senedd
Canllaw i Filiau Cydgrynhoi
Gall aelod o’r Llywodraeth gyflwyno Bil Cydgrynhoi at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a chyfraith gyffredin (Rheol Sefydlog 26C.2).
Fel arfer mae pedwar cyfnod i’r broses o drafod Bil Cydgrynhoi, sef:
- Ystyriaeth Gychwynnol – rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi;
- Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor – y pwyllgor cyfrifol yn ystyried y Bil yn fanwl ac unrhyw welliannau a gyflwynir i’r Bil hwnnw. Rhaid i’r Pwyllgor cyfrifol hefyd ystyried a chyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai’r Bil symud ymlaen i’r cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu’r Cyfnod Terfynol;
- Ystyriaeth Fanwl y Senedd – y Senedd yn ystyried y Bil yn fanwl ac unrhyw welliannau a gyflwynir i’r Bil hwnnw;
- Cyfnod Terfynol – y Senedd yn pleidleisio ar gynnig i basio testun terfynol y Bil.
Canllaw i Filiau Cydgrynhoi (PDF 151KB)
Canllaw i Filiau Preifat
Caiff Bil Preifat ei gyflwno gan unigolyn neu sefydliad y tu allan i’r Senedd er mwyn cael pwerau sy’n ychwanegol at y gyfraith gyffredinol, neu yn groes iddi. Mae gweithdrefnau’r Senedd mewn perthynas â Biliau Preifat wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26A.
- Hysbysiad Hwylus am Filiau Preifat (PDF 937KB)
Nid oes Biliau Preifat ar y gweill ar hyn o bryd.
Balot ar gyfer Biliau Aelodau
O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal Balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw Aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau gyflwyno’r wybodaeth sy’n angenrheidiol cyn y balot yn unol â Rheol Sefydlog 26.90.
- Crynodeb o'r broses ar gyfer Biliau Aelodau (PDF 131KB)
- Canllawiau i Broses Biliau Aelodau (PDF 643KB)
- Rheolau Sefydlog y Senedd
Penderfyniadau’r Llywydd o ran Ffurf Briodol
- Ffurf Briodol Biliau Cyhoeddus (PDF 131KB)
- Ffurf Briodol Gwelliannau i Filiau Cyhoeddus (PDF 211KB)