Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gwaith Achos ar gyfer Sera Evans AS

Cyhoeddwyd 01/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/06/2026

 Cydlynydd Gwaith Achos ar gyfer Sera Evans AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad:Swyddfa'r Etholaeth (lleoliad yn Afan Ogwr Rhondda i'w gadarnhau) a'r Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-035-26

Diben y swydd:

Bydd Swyddog Gwaith Achos Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelodau) yn ymdrin ag achosion mwy cymhleth, yn eiriol dros etholwyr, ac yn ymchwilio i bolisi wrth ddarparu cefnogaeth i etholwyr a'r Aelod. Bydd yn gweithio'n annibynnol ar waith achosion, yn cysylltu ag asiantaethau’r llywodraeth a chyrff perthnasol eraill yn ôl yr angen.

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
  • Ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â pholisi neu faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar etholwyr ac uwchgyfeirio pryderon brys i'r Aelod.
  • Drafftio ac anfon llythyrau manwl, adroddiadau a chrynodebau o achosion ar ran yr Aelod.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn
  • Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles, mewnfudo a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas. 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch âr Sera.Evans-AS@senedd.cymru

 

 


Dyddiad cau: 5 y.p, 15 Mehefin 2026
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau