Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru
Ystod cyflog (pro rata): £23,742 - £31,798
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 1 Diwrnod yr wythnos (7.4 awr)
Natur y penodiad: Hyd at 31 Mawrth 2026
Lleoliad: Senedd Cymru, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-026-25
Diben y swydd:
Cynorthwyo wrth greu a monitro cynnwys digidol a chefnogi gwaith cyfathrebu Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd
Prif ddyletswyddau:
- Cefnogi gwaith cyfathrebu trwy ymchwilio, cyfrannu syniadau, paratoi a chreu ystod o gynnwys digidol creadigol a deinamig ar gyfer hyrwyddo gwaith Grŵp Plaid Cymru
- Gweithio’n broactif i gynnig syniadau cyfryngau cymdeithasol newydd, yn ogystal a chreu a rhannu cynnwys rhagweithiol bachog
- Cynorthwyo gyda gwaith ymgysylltu’r Grŵp ar y cyfryngau Cymdeithasol yn cynnwys monitor ac ymateb i sylwadau
- Cynorthwyo i ganfod unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill a allai gynnig cyfleoedd ar gyfer sylw yn y cyfryngau a’r cyfryngau digidol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad mewn amgylchedd cyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu digidol
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad iddynt, a'r gallu i weithio mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif
- Ymrwymiad i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan
Cymhwysterau hanfodol:
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Francess.Ifan@Senedd.Cymru