Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Zaynub Akbar AS

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Zaynub Akbar AS 

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 (bydd ceisiadau rhan amser yn cael ei ystyried)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-048-26

Diben y swydd: 

Rhoi cymorth gweinyddol ac etholaethol i’r Aelod o’r Senedd, ynghyd â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

Ymdrin â Gwaith Achos Etholwyr
•    Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
•    Cofnodi a dilyn hynt achosion gan ddefnyddio system rheoli achosion i sicrhau camau dilynol amserol.
•    Ymchwilio i faterion a chysylltu ag adrannau'r llywodraeth, cynghorau ac asiantaethau ar ran etholwyr.
•    Drafftio llythyrau a negeseuon e-bost i ymateb i ymholiadau etholwyr.
Cyngor ac Eiriolaeth
•    Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
•    Uwchgyfeirio achosion cymhleth i uwch-weithwyr achos neu'r Aelodau pan fo angen.
•    Sicrhau bod etholwyr yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfeirio nhw at wasanaethau cymorth perthnasol pan fo’n briodol.
Cymorth Gweinyddol
•    Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
•    Trefnu cyfarfodydd rhwng etholwyr a'r Aelodau neu uwch-staff.
•    Efallai drefnu digwyddiadau megis cymorthfeydd neu ymweliadau ar gyfarwyddyd yr Aelodau.
•    Drafftio a phrawfddarllen gohebiaeth ar gyfer yr Aelodau.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Yn gofyn am y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol e.e. busnes neu weinyddiaeth gyhoeddus.
  • Disgwylir iddynt fod yn hyddysg mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
  • Disgwylir iddynt fod yn hyddysg gyda'r adnoddau a'r offer arferol ar gyfer y swydd e.e. pecynnau meddalwedd safonol, a bod yn gyfarwydd â’r cyfryngau ar-lein.
  •  Sgiliau cyfathrebu – Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Zaynub.Akbar-AS@Senedd.cymru .

Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser o 37 awr yr wythnos.  Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid/ei phlaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli.  Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod.
 
Yn ogystal â Zaynub Akbar, yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, a all benodi i’r rôl hon yw: Nick Carter a Dafydd Trystan Davies

 


Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026 - hanner dydd
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau