Cynorthwyydd Gweinyddol i Nick Carter AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-042-26
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddol Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo gyda phob agwedd ar redeg swyddfa'r Aelod gan gynnwys darparu cymorth gweinyddol yn uniongyrchol i'r Aelod.
Prif ddyletswyddau:
Dyletswyddau Gweinyddol:
• Ymdrin â negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr, rhanddeiliaid a chyrff llywodraeth.
• Trefnu amserlen yr Aelod, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau a threfniadau teithio.
• Cadw cofnodion, ymdrin â gohebiaeth, a sicrhau bod cyflenwadau swyddfa yn cael eu cynnal.
Gwaith Etholaethol:
• Cefnogi ymchwil ar faterion lleol a pholisïau'r Llywodraeth.
• Helpu i ddrafftio ymatebion a nodiadau briffio ar gyfer yr Aelod.
• Cefnogi gwaith etholaeth yr Aelod.
Rheoli Busnes a’r Swyddfa:
• Cefnogi'r Aelod i reoli staff ac adnoddau swyddfa yn effeithlon.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a chanllawiau moesegol y Senedd.
• Helpu gyda gwaith cynnal a chadw offer swyddfa a’r eiddo.
• Cynllunio a rheoli eu llwyth gwaith eu hunain a llwythi gwaith eraill, yn unol â gofynion yr Aelod.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg mewn maes gwaith gweinyddol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg gyda'r offer a'r cyfarpar ar gyfer y gwaith. Sgiliau TG effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft megis SharePoint, Word, Outlook ac Excel.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da.
- Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol.
- Y gallu i ddangos sensitifrwydd a sicrhau bod y safonau cyfrinachedd uchaf yn cael eu cynnal.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
Cymwysterau hanfodol:
Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.